DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Rheoliadau'r Amgylchedd a Materion Gwledig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

DYDDIAD

3 Mehefin 2019

GAN

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

 

Rheoliadau'r Amgylchedd a Materion Gwledig (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 ("Rheoliadau 2019")

 

Y Gyfraith sy'n cael ei diwygio

·         Rheoliadau’r Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (OS   2019/25) (“Rheoliadau EIA (Ymadael â'r UE").

·         Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (OS  2019/39) (“Rheoliadau EPR (Ymadael â'r UE").

·         Rheoliadau Gwastraff (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) (Rhif  2) 2019 (OS  2019/188) (“Rheoliadau Gwastraff (ymadael â’r UE) (Rhif 2)").

·         Rheoliadau Gwastraff (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â'r UE) 2019 (OS  2019/620) (“Rheoliadau Gwastraff (Ymadael â'r UE").

 

Diben y diwygiadau

Mae'r pedwar offeryn a restrir uchod yn cael eu gwneud o dan Adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Mae angen gwneud diwygiadau i'r offerynnau hyn i unioni man wallau a/neu i sicrhau cysondeb â diwygiadau eraill sy'n gysylltiedig ag ymadael â’r UE, er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth wedi'i diwygio gan yr offerynnau eraill hynny yn gweithio'n briodol ar ôl i'r DU ymadael â’r UE.

 

Mae'r Rheoliadau EIA (Ymadael â'r UE) yn unioni diffygion sy'n gysylltiedig ag ymadael â’r UE yn y rheoliadau domestig a oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r  Gyfarwyddeb EIA yn y meysydd canlynol: gwaith i wella draenio tir, coedwigaeth, adnoddau dŵr, amaethyddiaeth a gwaith morol.

 

Mae'r Rheoliadau EPR (Ymadael â’r UE) yn unioni diffygion sy'n gysylltiedig ag ymadael â’r UE yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, i sicrhau bod y gofynion trwyddedu perthnasol yn cael eu cyflawni fel y bwriedir drwy amodau mewn trwyddedau amgylcheddol, ac i roi'r pŵer i reoleiddwyr sicrhau cydymffurfiaeth â'r amodau hyn.

Roedd y Rheoliadau Gwastraff (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) a’r Rheoliadau Gwastraff (Ymadael â'r UE) yn rhan o dri offeryn Ymadael â'r UE (ynghyd â Rheoliadau Cludo Gwastraff yn Rhyngwladol (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 (OS 2019/590)), sydd gyda'i gilydd yn sicrhau bod deddfwriaeth gwastraff y DU yn parhau i weithio yn unol â'r bwriad ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.

 

Mae Rheoliad 2 o’r offeryn hwn yn unioni man wall yn y Rheoliadau EIA (Ymadael â’r UE).  Yn yr offeryn hwnnw mae'r diffiniad o "public" fel y mae yn y Gyfarwyddeb EIA wedi cael ei fewnosod, wedi'i ddiwygio, yn y prif reoliadau sy'n cael eu diwygio gan yr offeryn hwnnw. Ers hynny, adroddwyd bod y diffiniad o "public" yn wahanol ar draws y rheoliadau unigol. Mae'r diffiniad o "public" yn Rheoliadau 5(2)(a)(ii) (ar gyfer amaethyddiaeth) a 6(2)(b) (ar gyfer gwaith morol), felly, yn cael ei ddiwygio i sicrhau ei fod yn gyson â'r diffiniad cliriach yn rheoliadau 2(2)(a)(ii) (ar gyfer gwaith gwella draenio tir) a 4(2)(c) (ar gyfer adnoddau dŵr).

 

Mae Rheoliad 3 o'r offeryn hwn yn gwneud diwygiadau i'r Rheoliadau EPR (Ymadael â'r UE.) Mae'n diweddaru croesgyfeiriadau at Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002 (OS 2002/618).  Gwnaeth Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol (Diwygio etc) (Ymadael â’r UE) 2019 (OS 2019/791) greu diffiniadau ychwanegol o " medical device", " in vitro diagnostic medical device" ac " active implantable medical device" yn Rheoliadau 2002. Mae Rheoliad 3 o'r offeryn hwn yn diweddaru'r croesgyfeiriadau yn y diffiniadau hynny yn Atodlen 1A newydd i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, sy'n cael eu mewnosod gan y Rheoliadau EPR (Ymadael â'r DU), i sicrhau y cyfeirir at y ddau ddiffiniad yn Rheoliadau 2002. Mae hyn yn gyson â rheoliad 4T o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002 fel y'i mewnosodir gan OS 2019/791, sy'n addasu'r un diffiniadau yn Rheoliad 2(1) Rheoliadau Offer Trydan ac Electronig Gwastraff 2013 (OS 2013/3113) yn yr un modd.

 

Mae Rheoliad 4 o'r offeryn hwn yn gwneud man ddiwygiadau i'r Rheoliadau Gwastraff (Ymadael â'r UE) (Rhif 2) fel y ganlyn:

·         Mae Rheoliad 4(2) o'r offeryn hwn yn diwygio Rheoliad 9(10) o'r Rheoliadau Gwastraff (Ymadael â’r UE) (Rhif 2). Mae Rheoliad 9(10) yn diwygio Rheoliad 33 o Reoliadau Cerbydau ar Ddiwedd eu Hoes 2003 (OS 2003/2635). Mae Rheoliadau 4(2) o'r offeryn hwn yn mewnosod diwygiadau newydd i Reoliad 9(10) i unioni'r diffygion ychwanegol o ganlyniad i ymadael â’r UE yn Rheoliad 33 o Reoliadau 2003;

·         Mae Rheoliad 4(3) o'r offeryn hwn yn hepgor Rheoliad 13(3) o Reoliadau Gwastraff (Ymadael â’r UE) (Rhif 2). Mae Rheoliad 13(3) yn diwygio Rheoliad 3(1) o Reoliadau Batris a Chronaduron (Rhoi ar y Farchnad) 2008 drwy fewnosod cyfeiriad at "Reoliad 2A". Fodd bynnag, cafodd Rheoliad 13(3) ei gynnwys drwy ddamwain a bydd yn cael ei hepgor;

·         Yn yr un modd, mae Rheoliad 4(3) o'r offeryn hwn yn hepgor Rheoliad 14(2)(b) o Reoliadau Gwastraff (Ymadael â’r UE) (Rhif 2). Mae Rheoliad 14(2)(b) yn honni ei fod yn diwygio'r diffiniad o'r "Gyfarwyddeb Gwastraff" yn Rheoliad 2 o Reoliadau Batris a Chronaduron Gwastraff 2009. Fodd bynnag, nid oes diffiniad o'r fath. Cafodd Rheoliad 14(2)(b) ei gynnwys drwy ddamwain a bydd yn cael ei hepgor.

·         Mae Rheoliad 4(4)o'r offeryn hwn yn diwygio Rheoliad 16 o'r Rheoliadau Gwastraff (Ymadael â’r UE) (Rhif 2). Mae Rheoliad 16 yn diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011.

·         Mae Rheoliad 4(4)(b) o’r offeryn hwn yn mewnosod darpariaethau newydd sy'n diwygio paragraff 4 o ran Rhan 1 o Atodlen 1 i Reoliadau 2011, i unioni'r diffygion o ganlyniad i ymadael â’r UE yn y paragraff hwnnw. Yn dilyn ymadael o'r UE, nid yw bellach yn briodol i'r amcanion sy'n gysylltiedig ag egwyddorion hunan-gynaliadwyedd ag agosrwydd mewn cynlluniau gwastraff cenedlaethol gyfeirio at yr UE. Felly, mae'r diwygiadau yn sicrhau y bydd egwyddorion hunan-gynaliadwyedd ac agosrwydd yn parhau i fod yn berthnasol ar lefel y DU. 

·         Mae Rheoliad 4(4)(a) yn diwygio Rheoliad 16(3) o Reoliadau Gwastraff (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) drwy ddisodli testun Rheoliad 3D(8)(b)(i) newydd sydd wedi cael ei fewnosod yn Rheoliadau 2011. Mae angen y diwygiad hwn i sicrhau dull cyson rhwng testun yr addasiad i Erthygl 16 y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff (Mae Erthygl 16 yn cynnwys egwyddor hunan-gynaliadwyedd ac mae agosrwydd yn deillio o'r egwyddor hon) a thestun y diwygiad a wneir gan Reoliad 4(4)(b) o’r offeryn hwn.

·         Mae Rheoliad 4(5) o'r offeryn hwn yn diwygio Rheoliad 18(25)(c) o'r Rheoliadau Gwastraff (Ymadael â’r UE) (Rhif 2). Mae 18(25)(c) yn mewnosod Rhan 4 newydd yn Atodlen 1 i Reoliadau Cyfyngu ar Sylweddau Peryglus mewn Cyfarpar Trydanol ac Electronig 2012. Nid oes angen paragraff 26(c)(vi) o'r Rhan 4 newydd honno yng ngoleuni paragraffau 26(c)(iv) a 26(c)(v) o'r Rhan honno. Cafodd paragraff 26(c)(vi) newydd ei gynnwys drwy ddamwain a bydd yn cael ei hepgor.

 

Mae Rheoliad 5 o'r offeryn yn diwygio Rheoliad 17(3) o'r Rheoliadau Gwastraff (Ymadael â’r UE). Mae Rheoliad 17(3) yn mewnosod Erthyglau 1A a 1F newydd i Benderfyniad y Comisiwn 2009/335/EC ar ganllawiau technegol ar gyfer sefydlu'r gwarant ariannol, yn unol â Chyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch rheoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnu. Mae Rheoliad 5 o'r offeryn hwn yn disodli Erthygl 1B(8)(b)(i) newydd, sy'n addasu Erthygl 16 y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, i sicrhau dull cyson ar gyfer y diwygiadau a wneir o dan Reoliad 4(4) o'r offeryn fel y'i hamlinellir uchod.

 

Mae Rheoliadau 2019 a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig sy'n nodi effaith y diwygiadau ar gael yma: https://beta.parliament.uk/work-packages/LSVBijTm

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd  gweithredol Gweinidogion Cymru

Nid yw Rheoliadau 2019 yn effeithio ar allu Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, a bydd hyn yn parhau yn ddilyffethair. 

 

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd gweithredol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid yw Rheoliadau 2019 yn cael unrhyw effaith ar gymhwysedd gweithredol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 

 

Pam y rhoddwyd cydsyniad

Fel yr eglurwyd uchod, mae Rheoliadau 2019 yn cael eu gwneud er mwyn unioni man wallau a/neu i sicrhau cysondeb rhwng yr offerynnau hynny ac offerynnau statudol eraill sy'n gysylltiedig ag ymadael â’r UE, ac i sicrhau effeithiolrwydd a pharhad deddfwriaeth y DU ar ôl inni ymadael â'r UE.